Garry Kasparov

Mae Garry Kimovich Kasparov (ganwyd 13 Ebrill 1963) yn uwchfeistr gwyddbwyll o Rwsia, yn gyn Bencampwr Gwyddbwyll y Byd (1985 - 2000), yn gyn wleidydd ac yn awdur. Roedd ei radd gwyddbwyll uchaf FIDE ym 1991 yn 2851, Hwn oedd yr uchaf a gofnodwyd nes i Magnus Carlsen ei basio yn 2013. O 1984 nes iddo ymddeol o wyddbwyll cystadleuol rheolaidd yn 2005, Kasparov oedd rhif Un y byd am 255 mis, yr hiraf erioed. Mae Kasparov hefyd yn dal y record am y buddugoliaethau twrnamaint proffesiynol mwyaf yn olynol (15) ac Oscar Gwyddbwyll (11). Daeth Kasparov yn Bencampwr y Byd yn ddwy-ar-hugain oed ym 1985 pan drechodd Anatoly Karpov. Amddiffynnodd y teitl yn erbyn Karpov deirgwaith, ym 1986, 1987 a 1990. 'Roedd Kasparov yn bencampwr swyddogol FIDE tan 1993, ond yn dilyn ei anghydfod gyda FIDE dechreuodd sefydliad newydd, Cymdeithas y Chwaraewyr Gwyddbwyll Proffesiynol (CCGP). Ym 1997, ef oedd y pencampwr y byd cyntaf i golli gêm i gyfrifiadur o dan reolaeth amser clasurol pan drechwyd ef gan uwchgyfrifiadur IBM Deep Blue mewn gornest a gafodd gyhoeddusrwydd byd-eang. Daliodd teitl pencampwr y byd y CCGP tan y flwyddyn 2000 pan gollodd i Vladimir Kramnik. Er hyn, parhaodd i ennill twrnameintiau ac ef oedd y chwaraewr â'r sgôr Elo uchaf yn y byd ar adeg ei ymddeoliad. Hyfforddodd Kasparov Carlsen yn 2009-10, ac yn ystod y cyfnod hwnnw cododd Carlsen i rif Un yn y byd. Ymdrechodd Kasparov yn aflwyddiannus am arlywyddiaeth FIDE yn 2013-2014. Ar ol ymddeol o wyddbwyll proffesiynol, mae Kasparov wedi troi at awdura a gwleidyddiaeth. Ysgrifennodd ei gyfres o lyfrau My Great Predecessors, a gyhoeddwyd gyntaf yn 2003, yn manylu ar hanes a gemau'r chwaraewyr a'i rhagflaenodd fel Pencampwyr y Byd. Yn wleidyddol ffurfiodd fudiad y Ffrynt Sifil Unedig a bu'n aelod o 'Y Rwsia Arall', clymblaid gwrthwynebus i Vladimir Putin. Yn 2008, cyhoeddodd ei fwriad i ymgeisio am arlywyddiaeth Rwsia, ond yn y diwedd tynnodd yn ôl gan feio " rhwystri swyddogol" gan y weinyddiaeth. Yn sgil y protestiadau torfol a ddechreuodd yn Rwsia yn 2011, cyhoeddodd ym mis Mehefin 2013 ei fod wedi gadael Rwsia rhag ofn erledigaeth. Ar ôl ffoi'r wlad, bu'n byw yn Ninas Efrog Newydd gyda'i deulu. Yn 2014, cafodd ddinasyddiaeth gan Croatia ac mae'n cynnal preswylfa ger Split. Mae Kasparov yn gadeirydd y 'Sefydliad Hawliau Dynol' ac yn cadeirio ei Gyngor Rhyngwladol. Yn 2017, sefydlodd y "Menter Adnewyddu Democratiaeth", sefydliad gwleidyddol Americanaidd i hyrwyddo ac amddiffyn democratiaeth rhyddfrydol yn yr Unol Daleithiau a thramor, ac mae'n gwasanaethu fel cadeirydd y grŵp. Mae hefyd yn llysgennad diogelwch ar gyfer y cwmni meddalwedd Avast.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search